Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

CELG(4)-28-14 Papur 2

 

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Dyddiad:       23 Hydref 2014

Amser:           10:00-11:00

Teitl:               Cais am wybodaeth gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i lywio'r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft 2015-16

 

Diben

1.    Darparu gwybodaeth am Gyllideb Ddrafft 2015-16 mewn perthynas â'r Gymraeg yn unol â chais y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

Amseru

2.     Caiff y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi ar 30 Medi 2014.

    

Ymateb

3.    Caiff y wybodaeth ganlynol ei darparu yn unol â threfn y llythyr comisiynu dyddiedig 5 Awst 2014 o dan y penawdau canlynol:

 

·         Llinellau Gwariant Unigol yn y Gyllideb ar gyfer ariannu'r Gymraeg

·         Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu

·         Polisïau allweddol, gan gynnwys: cyflawni strategaeth Iaith Fyw: Iaith Byw; canlyniadau Y Gynhadledd Fawr; dyraniadau cyllid ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg; effaith ddisgwyliedig y rheoliadau sy'n darparu ar gyfer safonau'r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a chyflawni'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

·         Asesiadau o effaith ar y Gymraeg

·         Gwariant Ataliol

·         Darpariaeth ar gyfer Deddfwriaeth

 

 

Llinellau Gwariant Unigol yn y Gyllideb (BEL) ar gyfer ariannu'r Gymraeg

 

4.    Gan fod y Gymraeg yn thema drawsbynciol, yn ogystal â'r BEL hyn, mae adrannau eraill yn cynnwys gwariant ar y Gymraeg yng nghyd-destun eu meysydd polisi eu hunain. Amlinellir gwybodaeth am wariant ar y Gymraeg mewn adrannau eraill mewn mannau eraill yn y papur hwn.

 

5.    Mae'r tabl isod yn rhoi crynodeb o'r BEL sy'n ymwneud ag ariannu'r Gymraeg:


 

 

 

2014-15

2015-16

2015-16

2015-16

2015-16

BEL

Cyllideb Atodol
Mehefin 2014

Cynlluniau Dangosol

Cyllideb Derfynol

Rhagfyr 2013

Gostyngiadau

Trosglwyddiadau

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

 

 

£000

£000

£000

£000

£000

6020 Y Gymraeg

8,914

9,049

-400*

-3,390

5,259

6021 Comisiynydd y Gymraeg

0

0

0

3,390

3,390

5164 Cymraeg mewn Addysg

15,462

14,462

-600

4,737

18,599

4765 BEL Buddsoddiad Strategol **

1,250

0

0

0

0

Cyfanswm y gwariant uniongyrchol ar y Gymraeg

25,626

23,511

-1,000

4,737

27,248

* Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o £300K yng nghyllideb Comisiynydd y Gymraeg. Roedd hwn yn rhan o BEL 6020 ar gyfer 2014-15 ond trosglwyddwyd i BEL ar wahân yn yr ail cyllideb atodol

** Wedi'i neilltuo ar gyfer prosiectau cyfalaf sy'n ymwneud yn benodol â'r Gymraeg (Paragraff 54)

 

6.    Diben BEL 6020 yw ategu nodau Strategaeth y Gymraeg Iaith Fyw: Iaith Byw a'r datganiad polisi Iaith fyw: iaith byw - Bwrw Mlaen sef:

·         Annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg o fewn teuluoedd

·         Cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith

·         Cryfhau safle’r Gymraeg o fewn y gymuned

·         Cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle

·         Cynyddu a gwella gwasanaethau Cymraeg i ddinasyddion

·         Cryfhau’r seilwaith ar gyfer yr iaith

 

7.    Diben BEL 6021 yw ariannu swydd Comisiynydd y Gymraeg. Mae gan y Comisiynydd swyddogaethau a phwerau eang sy'n cynnwys:

·         gweithio tuag at sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg

·         gosod dyletswyddau ar bersonau sydd o fewn cwmpas y Mesur i gydymffurfio â safonau'n ymwneud â'r Gymraeg

·         cynnal ymchwiliadau i faterion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Comisiynydd

·         ymchwilio i achosion honedig o ymyrryd â rhyddid unigolyn i gyfathrebu ag unigolyn arall yn Gymraeg.

·         hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn enwedig yn y trydydd sector a'r sector preifat

 

8.    Diben BEL 5164 yw gweithredu'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gan gynnwys gwneud y canlynol;

·         cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg;

·         darparu hyfforddiant i ymarferwyr drwy'r Cynllun Sabothol a'r Grant Cymraeg mewn Addysg;

·         darparu hyfforddiant Cymraeg drwy gyrsiau Cymraeg i oedolion a Chymraeg ail iaith;

·         comisiynu adnoddau addysgu a dysgu;

·         ymgymryd â gwaith ymchwil, gwerthuso a marchnata mewn perthynas â'r Strategaeth.

 

9.    2015-16 fydd chweched flwyddyn y Strategaeth a chaiff y gwariant ei gynllunio yn unol â gweithgareddau sydd wedi'u cynnwys yn Rhaglen Weithredu'r Strategaeth.

 

10. Y rheswm pennaf am y cynnydd o £4.737m yn BEL 5164 yw trosglwyddiadau rheolaidd yn y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Addysg a Sgiliau. Ar sail tebyg am debyg, mae'r cyllidebau perthnasol wedi gostwng £600k rhwng 2014-15 a 2015-16.  Mae'r trosglwyddiadau sy'n effeithio ar y BEL fel a ganlyn;

·         Trosglwyddo £9.867m o Addysg Ôl-16 i Gymraeg i Oedolion er mwyn symleiddio'r broses ar gyfer y sector;

·         Trosglwyddo £5.13m o'r Grant Cymraeg mewn Addysg sy'n weddill i Safonau Addysg er mwyn creu'r Grant Gwella Addysg newydd ar gyfer ysgolion.

 

Gwybodaeth y gwnaethpwyd cais amdani gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

11. Gwnaethoch ofyn am gael gweld copi o'r wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar ddarpariaeth gyllidebol i ategu'r broses o weithredu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru a Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg Awdurdodau Lleol (WESPS). Gweler Atodiad 1.

 

Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu mewn perthynas â'r Gymraeg

12. Gwnaethoch ofyn am y wybodaeth ganlynol mewn perthynas â Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru:

 

·         Manylion y costau sy'n gysylltiedig ag ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu mewn perthynas â'r Gymraeg ac/neu unrhyw waith sy'n cael ei wneud i asesu'r cyfryw gostau;

·         P'un a ellir cyflawni'r ymrwymiadau hyn o fewn y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y portffolio a manylion unrhyw feysydd lle ceir pryderon ynghylch fforddiadwyedd; 

·         Gwybodaeth am y modd y caiff yr ymrwymiadau mewn perthynas â'r Gymraeg a'u canlyniadau cysylltiedig eu monitro a'u gwerthuso er mwyn dangos gwerth am arian.

 

Strategaeth y Gymraeg

13.Caiff ymrwymiad 12/014 yn y Rhaglen Lywodraethu sef'Parhau’n ymroddedig i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn iaith ‘fyw’, un sy’n ffynnu wrth gael ei defnyddio bob dydd ar draws ein gwlad' ei gyflawni drwy Strategaeth y Gymraeg 2012-17 - Iaith Fyw: Iaith Byw, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2012. Mae'n nodi bod gan bob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb clir i arwain mewn perthynas â'r Gymraeg.

 

14.Fel y cyfryw, mae ymrwymiad 12/014 yn y Rhaglen Lywodraethu yn cwmpasu'r canlynol:

12/015 Sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn hygyrch i bobl trwy gyfrwng y Gymraeg

12/018 Ceisio ymestyn y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

12/020 Ceisio ffyrdd arloesol o sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei throsglwyddo mewn teuluoedd a bod defnyddwyr yn teimlo’n gyfforddus yn dewis y Gymraeg.

12/021 Gweithio i sicrhau bod grwpiau cymunedol yn teimlo eu bod yn gallu defnyddio’r iaith Gymraeg fel rhan o’u gweithgareddau ac yn gallu gweithredu’n ddwyieithog.

12/022  Canolbwyntio ar gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y cyfryngau electronig a cheisio sicrhau bod gan bawb ddewis o ddefnyddio’r Gymraeg lle bynnag y bo’n bosibl.

12/023 Ceisio perswadio busnesau rhyngwladol sy’n darparu gwasanaethau ar y we ac ar-lein i’w darparu yn Gymraeg.

 

15.Mae BEL (6020) 'Y Gymraeg'sy'n werth £5.259M, ynghyd â BEL (6021) 'Comisiynydd y Gymraeg' sy'n werth £3.390M yn ategu'r broses o weithredu'r Strategaeth ar draws chwe maes strategol:

1. Y teulu (12/020)

2. Plant a phobl ifanc

3. Y gymuned (12/021)

4. Y gweithle

5. Gwasanaethau Cymraeg (12/015, 12/018)

6. Seilwaith (12/022, 12/023)

 

16.Mae'r broses o gyflawni ymrwymiad 12/014 yn y Rhaglen Lywodraethu a'i ymrwymiadau atodol drwy weithredu strategaeth y Gymraeg yn cael ei chyflawni o fewn y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y portffolio. Gwnaed toriadau i'r gyllideb yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac felly bu'r broses o weithredu rhai o'r camau yn destun oedi neu cânt eu cyflawni dros gyfnod hwy. Rhoddwyd blaenoriaeth i'r meysydd lle y gellir cyflawni'r canlyniadau mwyaf.

 

17.Caiff yr arian a ddosberthir i bartneriaid er mwyn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ei reoli gan Is-adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru. Yn unol â'r ymrwymiad a wnaed yn y datganiad polisi diweddar, Iaith fyw: iaith byw - Bwrw Mlaen, mae trefniadau'n cael eu gwneud i sefydlu bwrdd prosiect er mwyn goruchwylio'r broses o weithredu'r Strategaeth a'r datganiad polisi o fewn Llywodraeth Cymru. Mae Fframwaith Gwerthuso ar gyfer y Strategaeth wedi'i baratoi a chaiff prosiectau gwerthuso penodol eu comisiynu maes o law.

 

18.Caiff ymrwymiadau 12/015 'Sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn hygyrch i bobl trwy gyfrwng y Gymraeg' a 12/018 'Ceisio ymestyn y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru' eu cyflawni yn sgil cyflwyno safonau'r Gymraeg.

 

19.Mae safonau'n cael eu datblygu a fydd yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru, Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol. Bydd y safonau hyn yn gosod dyletswyddau ar sefydliadau mewn perthynas â'r canlynol:

20.Mae gan y sefydliadau hyn gryn brofiad o weithredu cynlluniau iaith Gymraeg statudol, felly mae'n debygol y caiff y mwyafrif o'r costau yr eir iddynt er mwyn cydymffurfio â'r safonau eu cwmpasu gan gyllidebau presennol sy'n gysylltiedig â chydymffurfio â chynlluniau iaith Gymraeg.

 

21.Fel rhan o ymchwiliad safonau cyntaf Comisiynydd y Gymraeg, cynhaliodd Llywodraeth Cymru Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA) lle y gofynnwyd i'r sefydliadau nodi'r costau a oedd yn gysylltiedig â chydymffurfio â'r safonau, ar ben y costau yr aed iddynt er mwyn cydymffurfio â chynlluniau iaith Gymraeg.

 

22.Disgwylir i'r safonau ddod i rym drwy reoliadau ym mis Mawrth 2015. Felly, mae'n debygol y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi hysbysiad cydymffurfio yng nghanol 2015 ac y bydd y safonau yn dod i rym chwe mis ar ôl derbyn yr hysbysiad cydymffurfio. Mae'n debygol y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydymffurfio â'r safonau yn ystod blwyddyn ariannol 2015/16.

 

23.Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwybod yn union pa safonau y bydd angen iddi gydymffurfio â hwy nes y bydd yn cael hysbysiad cydymffurfio gan y Comisiynydd.  Roedd ymateb y Llywodraeth i ymarfer RIA yn seiliedig ar y safonau arfaethedig a fu'n destun ymchwiliad safonau'r Comisiynydd.

 

24.O gymharu â'r gost sy'n gysylltiedig â chydymffurfio â'i Chynllun Iaith Gymraeg ar hyn o bryd, nododd Llywodraeth Cymru na fyddai unrhyw oblygiadau cost ychwanegol i gydymffurfio â'r safonau darparu gwasanaethau, llunio polisïau, gweithredu a chadw cofnodion. Nodwyd swm o £20,000 fel cost ychwanegol ar gyfer cydymffurfio â safonau hyrwyddo.

 

25.O ran ymrwymiad 12/020 yn y Rhaglen Lywodraethu sef 'Ceisio ffyrdd arloesol o sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei throsglwyddo mewn teuluoedd a bod defnyddwyr yn teimlo’n gyfforddus yn dewis y Gymraeg', ein prif fentrau yn y maes hwn ar hyn o bryd yw Twf, Tyfu a Mae dy Gymraeg di'n Grêt.

 

Cyllideb

2014-15

Cyllideb Atodol

£000

2015-16

Cyllideb Ddrafft

£000

Twf

655

655

Tyfu

143

143

Mae dy Gymraeg di’n Grêt

49

49

 

26.Twf yw ein menter fwyaf yn y maes hwn. Mae'n rhaglen sefydledig ac arloesol a gyflwynir ar draws gogledd a de-orllewin Cymru i annog rhieni/gofalwyr sy'n siarad Cymraeg i siarad Cymraeg gyda'u plant.  Tyfu a Mae dy Gymraeg di'n Grêt yw ein mentrau presennol. Nod y mentrau yw helpu rhieni/gofalwyr i gyflwyno Cymraeg i'w plant a meithrin hyder rhieni/gofalwyr i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u plant.

 

27.Fel y nodwyd yn ein datganiad polisi diweddar Bwrw Mlaen, credwn ei bod yn bwysig bod teuluoedd yn ymwybodol o un llwybr cymorth sy'n hyrwyddo eu defnydd hwy o'r Gymraeg a'r defnydd o'r Gymraeg gan eu plant. Rydym felly yn awyddus i ddatblygu ac adeiladu ar y gweithgarwch presennol ar ffurf rhaglen genedlaethol. Bydd hyn yn sicrhau bod pob un o'n mentrau a'n hymdrechion yn y maes hwn yn cael eu cysoni er mwyn cynnig rhaglen eang ac amrywiol a fydd yn helpu teuluoedd i fyw drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

28.O ran ymrwymiad 12/021 yn y Rhaglen Lywodraethu sef 'Gweithio i sicrhau bod grwpiau cymunedol yn teimlo eu bod yn gallu defnyddio’r iaith Gymraeg fel rhan o’u gweithgareddau ac yn gallu gweithredu’n ddwyieithog' rydym yn gweithredu cynllun grant i hyrwyddo'r Gymraeg. Un o nodau'r cynllun yw cefnogi gweithgareddau sy'n atgyfnerthu safle'r iaith Gymraeg yn y gymuned.

 

Cyllideb

2014-15

Cyllideb Atodol

£000

2015-16

Cyllideb Ddrafft

£000

Grantiau i hyrwyddo'r Gymraeg

3,664

3,652

Gwariant ychwanegol o dan Bwrw Mlaen

400

800

Cynllun Gweithredu Technoleg

250

250

Cyfanswm

4,314

4,702

 

29. Mae Bwrw Mlaen yn cynnwys ymrwymiad i fuddsoddi £1.2 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn adeiladu ar y gweithgarwch hwn, sef £400,000 yn 2014-15 ac £800,000 yn 2015/16.

 

30. Mae hyn yn cynnwys swm o £750,000 ar gyfer y Mentrau Iaith dros ddwy flynedd yn ogystal â sefydlu cronfa gwerth £300,000 i hyrwyddo arloesedd mewn ardaloedd lle ceir canran uchel o siaradwyr Cymraeg ac ardaloedd eraill o bwysigrwydd strategol.

 

31.Mae Cynllun Gweithredu y Gymraeg a Thechnoleg yn cefnogi ymrwymiadau 12/022 'Canolbwyntio ar gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y cyfryngau electronig a cheisio sicrhau bod gan bawb ddewis o ddefnyddio’r Gymraeg lle bynnag y bo’n bosibl'  a 12/023 'Ceisio perswadio busnesau rhyngwladol sy’n darparu gwasanaethau ar y we ac ar-lein i’w darparu yn Gymraeg' a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu.

 

32.Cyllideb y Cynllun Gweithredu Technoleg yw £250,000 y flwyddyn dros y tair blwyddyn ariannol 2013-2016. Bu'r gyllideb hon yn ddigon i wneud gwahaniaeth wrth fynd i'r afael â methiant yn y farchnad o ran technoleg yn Gymraeg.

 

33.Caiff pob grant ei fonitro yn unol â chanllawiau'r Ganolfan Ragoriaeth Grantiau yn erbyn targedau yn seiliedig ar ganlyniadau.

 

Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

34.Mae gwybodaeth ynghylch sut mae'r gyllideb yn ategu'r strategaeth hon ym mharagraff 8. Mae targedau ac amcanion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn cefnogi'r broses o gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ac, yn benodol, 'Cyflwyno'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg' a 'Ceisio cynyddu nifer y bobl sydd yn siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ein system addysg'. (12/016, 12/017, 3/022, 3/023 a 3/024).

 

35.Fel y nodwyd yn flaenorol, mae'r Gymraeg yn thema drawsbynciol ac, fel y cyfryw, yn ogystal â'r dyraniad cyllidebol hwn, mae adrannau eraill yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r Gymraeg yn y system addysg. Er na ellir ei fesur yn hawdd, mae cyfanswm y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer y Gymraeg mewn addysg yn sylweddol uwch.

 

36.Caiff gwariant ei gynllunio yn unol â'r gweithgareddau hynny sydd wedi'u cynnwys yn Rhaglen Weithredu'r Strategaeth, sy'n cynnwys;

·         cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg;

·         darparu hyfforddiant i ymarferwyr drwy'r Cynllun Sabothol a'r Grant Cymraeg mewn Addysg;

·         darparu hyfforddiant Cymraeg drwy gyrsiau Cymraeg i Oedolion a Chymraeg ail iaith;

·         comisiynu adnoddau addysgu a dysgu;

·         ymgymryd â gwaith ymchwil, gwerthuso a marchnata mewn perthynas â'r Strategaeth.

 

37.Mae ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu yn cael eu cyflawni o fewn y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y portffolio.

 

38.Mae'r Strategaeth yn cynnwys targedau pum mlynedd penodol a thargedau deng mlynedd mynegol yn seiliedig ar ganlyniadau, a gaiff eu defnyddio i fonitro cynnydd wrth weithredu'r Strategaeth. Dechreuodd gwerthusiad tair blynedd o'r Strategaeth ym mis Hydref 2012. Caiff y gwerthusiad hwn ei fwydo i mewn i adolygiad cynhwysfawr o'r Strategaeth, a gaiff ei gynnal ar ôl y pum mlynedd cyntaf yn 2015.

 

39.Mae ymrwymiad yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg hefyd i fonitro'r cynnydd yn erbyn y targedau yn y Strategaeth a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol. Cyhoeddwyd y pedwerydd adroddiad blynyddol ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ar 17 Gorffennaf 2014[1].

 

Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol - Mwy na Geiriau

40.Mae gan Uned Gymraeg yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (AIGC) gyllideb rhaglen fach i gefnogi'r gwaith o ddatblygu darpariaeth iaith Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a chymdeithasol a gweithredu'r fframwaith Mwy na Geiriau. Mae'r strategaeth hon yn cefnogi'r broses o gyflawni ymrwymiad 4/104 (2012)'Datblygu a gweithredu Strategaeth Iaith Gymraeg newydd ar gyfer y GIG i atgyfnerthu a chyflymu’r camau i’w gwneud yn haws i gleifion gael gafael ar wasanaethau yn eu mamiaith' a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu.

 

41.Nid yw'n bosibl nodi'n benodol unrhyw wariant arall gan AIGC ar y Gymraeg gan y byddai hwn yn cael ei brif ffrydio fel rhan o'r gwariant cyffredinol ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

 

42.Dylai'r ymrwymiadau hyn fod yn fforddiadwy o fewn y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y portffolio gan nad oes unrhyw gostau ychwanegol sylweddol yn gysylltiedig â gweithredu Mwy na Geiriau.  Gellir cyflawni llawer drwy agwedd a dymuniad i wella a thrwy sicrhau y caiff y ddarpariaeth Gymraeg ei hystyried o'r cychwyn cyntaf wrth gynllunio / datblygu gwasanaethau yn hytrach nag fel ôl-ystyriaeth.

 

43.Mae rheolwr gweithredu a grŵp gweithredu sy'n monitro cynnydd a wneir o ran cyflawni Mwy na Geiriau a chyflwyno adroddiadau i Dasglu'r Gymraeg mewn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Fel y nodwyd uchod, gellir cyflawni llawer o'r hyn a nodir yn Mwy na Geiriau heb fynd i gostau ychwanegol sylweddol.  Fodd bynnag, os oedd unrhyw faterion perthnasol a oedd yn gysylltiedig â gwerth am arian, byddai'r rhain yn cael eu hystyried gan y grŵp gweithredu.

 

Y strategaeth dai

44.12/019 'Parhau i gyflwyno cyllid ar gyfer tai fforddiadwy newydd yng Nghymru gan fod hyn yn gyfraniad hanfodol i gymunedau cynaliadwy a all gefnogi dyfodol yr iaith Gymraeg'.

 

45.Y Grant Tai Cymdeithasol (SHG) yw'r prif grant cyfalaf a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy. Fe'i defnyddir yn bennaf i ariannu cynlluniau tai gyda'r nod o ddiwallu'r angen lleol am dai a blaenoriaethau yn y maes. Mae Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am ddewis y cynlluniau a roddir ar waith a'r cymdeithasau tai a fydd yn bartneriaid iddynt. Telir SHG i'r cymdeithasau hyn maes o law er mwyn datblygu, prynu a rheoli'r tai fforddiadwy.

 

46.Y gyllideb ar gyfer SHG yw £57.5 miliwn ac, yn ogystal â hyn, bydd y Grant Cyllid Tai yn darparu dros 1000o dai fforddiadwy ledled Cymru erbyn diwedd 2015/16. Bydd y cyllid blynyddol, sef £4 miliwn, yn cyfateb i £60 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ymlaen llaw ac yn denu o leiaf £60 miliwn ychwanegol gan y sector cymdeithasau tai.

 

47.Cafodd prosiectau Swyddogion Galluogi Tai Gwledig (RHE) eu treialu'n llwyddiannus am y tro cyntaf 10 mlynedd yn ôl ac maent wedi bod yn gweithredu mewn rhannau gwahanol o gefn gwlad Cymru byth ers hynny. Maent yn gweithio'n agos gyda chymunedau gwledig i nodi'r angen lleol am dai, a chydag awdurdodau cynllunio a thai a chymdeithasau tai i ddarparu tai mewn ardaloedd gwledig. Ar lefel leol, caiff y prosiectau eu hariannu gan awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a pharciau cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua 30% o'r cyllid refeniw ar gyfer pob prosiect.

 

48.Er nad yw'r rhaglenni cyfalaf hyn yn ymwneud â'r Gymraeg yn unig, maent yn cefnogi'r broses o ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen ledled Cymru gan gynnwys mewn ardaloedd lle ceir nifer fawr o siaradwyr Cymraeg ac, yn wir, maent yn cefnogi'r iaith drwy sicrhau bod tai ar gael i deuluoedd lleol sy'n siarad Cymraeg.

 

49.Mae'r ymrwymiad hwn yn y Rhaglen Lywodraethu yn cael ei gyflawni o fewn y cyllidebau sydd ar gael ar gyfer y portffolio.

 

50.Mae Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r adran Llywodraeth Leol a Chymunedau i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried wrth fynd ati i werthuso'r rhaglen.

 

Polisïau allweddol

Sut mae a wnelo dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft â'r strategaeth Iaith Fyw: Iaith Byw

51. Mae paragraffau 13-33 o dan Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu yn darparu'r wybodaeth hon.

 

Effaith Y Gynhadledd Fawr ac ymateb dilynol Llywodraeth Cymru

52.  Ym mis Awst 2014, cyhoeddodd y Prif Weinidog ymateb Llywodraeth Cymru i Y Gynhadledd Fawr drwy ddatganiad polisi - Iaith fyw: iaith byw - Bwrw Mlaen. Mae'r datganiad polisi hwn yn nodi'n glir agenda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Gymraeg dros y tair blynedd nesaf.

 

53. Mae'r pwyslais yn Bwrw Mlaen ar weithredu a chyflawni er mwyn cefnogi a chryfhau sefyllfa'r Gymraeg. Mae'r ddogfen yn nodi pedair thema strategol:

 

·         Yr angen i gryfhau’r cysylltiadau rhwng yr economi a’r Gymraeg.

·         Yr angen am gynllunio strategol gwell ar gyfer y Gymraeg.

·         Y defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.

·         Yr her o newid ymddygiad ieithyddol.

 

54. Mae pob thema yn cynnwys cyfres o gamau gweithredu, sy'n cynnwys:

 

·         cyflwyno cronfa buddsoddi gwerth £1.25 miliwn ar gyfer 2014-15 a fydd wedi’i thargedu’n benodol at gefnogi datblygiad canolfannau a/neu ofodau dysgu all hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg neu drochi’r Gymraeg drwy gystadleuaeth a fydd yn cynhyrchu syniadau ac egni newydd

·         datblygu cyfres o ymgyrchoedd gyda’r nod o newid ymddygiad ieithyddol a fydd yn defnyddio arbenigedd marchnata cymdeithasol, gan ddechrau gydag ymgyrch ‘Y Pethau Bychain’

·         gwefan a fydd yn hyrwyddo a hysbysebu cyfleoedd i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg fel rhan o fywyd bob dydd ar draws Cymru

·         cronfeydd newydd gwerth £400,000 o'r portffolio Economi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, i gefnogi'r cyswllt rhwng y Gymraeg a'r economi

·         ailflaenoriaethu cronfeydd yr Adran Addysg a Sgiliau a arweiniodd at sicrhau £1.2m ychwanegol dros ddwy flynedd (£400,000 yn 2014-15 ac £800,000 yn 2015-16) i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned (dyma'r gostyngiad mewn cyllid ar gyfer Cymraeg i Oedolion a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014).

 

Dyraniadau cyllid ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg a'r sail a ddefnyddiwyd i benderfynu arnynt

55.Cyllid ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg

Cyllideb 2014-15

 

£’000

Gostyngiad arfaethedig yn y gyllideb

£’000

Cyllideb 2015-16

 

£’000

%

Gostyngiad

3,690

(300)

3,390

(8)

 

56.Sefydlwyd Llinell Wariant ychwanegol yn y Gyllideb (BEL) yn 2014-15 er mwyn helpu i sicrhau tryloywder, gyda’r trosglwyddiad yn cael ei  weithredu yn yr ail gyllideb atodol.

 

57.Er ein bod yn parhau'n ymrwymedig i'r Gymraeg, ni allwn amddiffyn pob gwasanaeth rhag effaith y toriadau a wnaed gan Lywodraeth y DU a goblygiadau blaenoriaethu gwariant. O ganlyniad, rhaid oedd cynnal asesiad o'r gyllideb gyffredinol er mwyn nodi ble y gellid gwneud toriadau a ble y byddent yn cael yr effaith leiaf. Fel rhan o'r adolygiad, penderfynwyd lleihau cyllideb Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16 £300,000, sy'n cyfateb i tua 8%.

 

58. Er mwyn diogelu'r ymrwymiadau a wnaed yn Bwrw Mlaen, nid yw'n briodol torri cyllid i'n partneriaid cyflawni sy'n gweithio i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru. Felly, rhaid oedd ystyried gwario llai ar feysydd eraill.

 

59. Er bod cyllid ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg yn cael ei leihau, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddiogelu rôl rheoleiddio'r Comisiynydd ac wedi nodi meysydd gwaith lle y gallai'r gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru a'r Comisiynydd gael ei ddyblygu.

 

60. Ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio gyda'r Comisiynydd i nodi ffyrdd o gydweithio a gweithio'n wahanol mewn meysydd fel hyrwyddo'r Gymraeg yn y sector preifat a'r trydydd sector er mwyn gwneud y gorau o'r adnoddau a'r arbenigedd sydd ar gael.

 

Sut mae dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft wedi'u dylanwadu gan effaith ddisgwyliedig y rheoliadau a fydd yn cyflwyno safonau'r iaith Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011; 

 

61. Cwblhawyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol fel rhan o'r cam Ymchwilio i Safonau. Fodd bynnag, roedd yr asesiad hwn yn seiliedig ar y safonau arfaethedig ac felly ni allwn nodi'r effeithiau disgwyliedig hyd nes i'r rheoliadau gael eu llunio a'r gyfres derfynol o safonau gael eu gosod ar Lywodraeth Cymru.

 

Sut mae a wnelo dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft â'r broses o gyflawni'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys gwybodaeth am y cysylltiad rhyngddynt a thargedau, y canlyniadau a gyflawnwyd hyd yn hyn a chanlyniadau bwriadedig.

 

62. Mae gwybodaeth ynghylch sut mae'r gyllideb yn ategu'r strategaeth hon ym mharagraff 8. Er bod y cynlluniau newydd ar gyfer y gyllideb yn dangos cynnydd yn y BEL Cymraeg mewn Addysg, fel y'i disgrifir ym mharagraff 10, ar sail tebyg am debyg, mae'r cyllidebau perthnasol sy'n ategu'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi gostwng £600k rhwng 2014-15 a 2015-16.  

 

63. Ymhlith y prif effeithiau bydd y canlynol:

·         Grant Cymraeg mewn Addysg - Bydd effaith y gostyngiad yn y gyllideb yn 2015-16 yn golygu y bydd llai o gymorth ar gael i ysgolion gan awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o addysgu Cymraeg a Chymraeg ail iaith.

·         Comisiynu adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg - Caiff llai o adnoddau addysgu eu comisiynu; caiff hyn ei reoli oherwydd yr amser a gymerir i gomisiynu a chynhyrchu adnoddau ac oedi diweddar yn y broses tendro a chomisiynu.

·         Gwneir llai o weithgarwch marchnata - Rhywfaint o effaith ond nid effaith sylweddol.

·         Cynllunio a phrif ffrydio - bydd effaith fach ar y gyllideb sydd ar gael i weithredu'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

 

64.Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rheoli, yn datblygu ac yn rhoi trosolwg annibynnol o addysg uwch cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i gefnogi gwaith y Coleg, gan gynnwys darparu ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg i gymell unigolion i astudio ar lefel addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae dyraniad cyllidebol o £8,600,000 (BEL 4561 Er mwyn ein Dyfodol - CCC ac UKHOVI) wedi'i ddarparu o fewn y dyraniad ar gyfer darpariaeth CCAUC i gefnogi'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2015-16, gyda £330,000 ychwanegol i gefnogi Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg.

 

65.Rhoddwyd cylch gorchwyl i CCAUC yn 2013-14 i gynnal gwerthusiad o ganlyniad gweithgareddau'r Coleg, gan gynnwys adolygiad o'r cyllid a roddwyd i'r Coleg, ac i roi manylion yr adolygiad i'm swyddogion erbyn mis Medi 2013 ac adroddiad terfynol erbyn mis Medi 2014. Mae'r adolygiad hwnnw'n mynd rhagddo. Caiff ei gynnal gan yr ymgynghorwyr Oldbell3, a chaiff adroddiad ei gyflwyno i'r Gweinidog erbyn diwedd mis Medi 2014.Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y canfyddiadau cyn nodi'r cwmpas ariannol terfynol ar gyfer 2015-16 a thu hwnt.

 

Manylion y costau a/neu unrhyw waith i asesu'r gost o gyflwyno'r polisïau hyn;

66. Fel y nodwyd ym mharagraff 17,  yn unol â'r ymrwymiad a wnaed yn y datganiad polisi diweddar, Iaith fyw: iaith byw - Bwrw Mlaen, mae trefniadau'n cael eu gwneud i sefydlu bwrdd prosiect i oruchwylio'r broses o weithredu'r Strategaeth a'r datganiad polisi o fewn Llywodraeth Cymru. Mae Fframwaith Gwerthuso ar gyfer y Strategaeth wedi'i baratoi a chaiff prosiectau gwerthuso penodol eu comisiynu maes o law.

 

Gwybodaeth ynghylch sut y caiff y broses o gyflwyno'r polisi, a'i ganlyniadau cysylltiedig, eu monitro a'u gwerthuso er mwyn dangos gwerth am arian.

67. Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael ym mharagraff 17.

 

Asesiadau o effaith ar y Gymraeg

68.Mae sawl cam pwysig wedi'u cymryd wrth baratoi'r gyllideb ddrafft eleni er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ystyriaeth briodol. 

 

69.Rydym yn adeiladu ar yr asesiad o effaith y gyllideb y llynedd ac rydym wedi paratoi asesiad cwbl integredig o effaith ar gyfer 2015-16, sy'n cynnwys y Gymraeg ar draws y meysydd portffolio.

 

70.Cyhoeddwyd Asesiad Integredig o Effaith (IIA) Cyllideb Ddrafft 2015-16 fel dogfen annibynnol ochr yn ochr â'r Gyllideb Ddrafft ar 30 Medi 2014. 

 

71.Mae gan y dull integredig hwn y fantais allweddol o ystyried effeithiau penderfyniadau gwario ar bob un o'r grwpiau gwarchodedig yn ogystal â materion gwahanol. Mae gwneud hynny mewn modd cynhwysol yn ein helpu i ddeall y cydberthnasau rhwng y meysydd allweddol hyn.

 

72.Dyma'r tro cyntaf i ni gynhyrchu adroddiad integredig sy'n ystyried hawliau plant, cydraddoldeb, trechu tlodi ac anfantais economaidd-gymdeithasol a'r Gymraeg ac yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy.  Nid yw'r materion hyn yn rhai annibynnol - maent yn cefnogi ac yn ategu ei gilydd.  Er enghraifft, mae Cymru fwy cyfartal yn un o'n nodau llesiant i Gymru. Rydym am weld cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo'u cefndir na'u hamgylchiadau.

 

73.Mae'r IIA yn ddogfen fwy penodol sy'n nodi'r newidiadau mwyaf sylweddol i gyllidebau ac yn amlygu'r rhesymau dros ddiogelu rhai cyllidebau hefyd.  

74.Rhoddwyd canllawiau i bob Adran ynghylch asesu'r effaith ar y Gymraeg wrth baratoi eu cyllidebau drafft eleni. Mae'r adroddiad ar yr asesiad o effaith y gyllideb yn dangos y newidiadau mwyaf fesul Maes y Rhaglen Wariant.

 

75.Mae'r adroddiad ar yr asesiad o effaith a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft yn cynnwys nifer o enghreifftiau o asesiadau o effaith ar y Gymraeg.

 

76. Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi y bydd £4,324,396.98 ar gael i CWLWM (consortiwm o bum sefydliad gofal plant arweiniol yng Nghymru) dros gyfnod o dair blynedd. Ymhlith amcanion y consortiwm mae nodi bylchau yn y ddarpariaeth Gofal Plant a Chwarae ledled Cymru a dod o hyd i atebion i'r bylchau hynny gan gynnwys atebion arloesol sy'n ymwneud â darpariaeth Gymraeg.

 

77.Nod Dechrau'n Deg, rhaglen trechu tlodi allweddol, yw gwella canlyniadau i blant a theuluoedd sy'n byw mewn cartrefi incwm isel. Mae Cynlluniau Cyflawni Dechrau'r Deg, a gwblheir gan bob awdurdod lleol er mwyn cael y grant, yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Lleol ddarparu manylion y gofal plant a ddarperir yn Gymraeg a sut y'i cynigir i rieni. Mae'r nod, sef cynyddu nifer y plant sy'n manteisio ar Dechrau'n Deg i 36,000 erbyn 2016, wedi arwain at gynnydd yn y galw am siaradwyr Cymraeg, yn enwedig gweithwyr gofal plant, gan ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol ymateb i ddymuniadau rhieni a darparu lleoedd gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Mae'r broses o ehangu Dechrau'n Deg hefyd yn galw am gynnydd mewn nifer o rolau gan gynnwys gweithwyr cymorth rhianta, ymwelwyr iechyd a therapyddion lleferydd ac iaith. Mae'r swyddi hyn yn adlewyrchu gofynion ieithyddol yr awdurdod lleol. Yn ogystal, caiff holl ddeunyddiau hyrwyddol Dechrau'n Deg eu cynhyrchu'n ddwyieithog.

 

78.Mae cyfanswm y gyllideb refeniw ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon wedi gostwng 3.4% o gymharu â 2014-15. Felly, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn er mwyn dod o hyd i'r toriadau sydd eu hangen yn y gyllideb. Wrth wneud penderfyniadau ar y gyllideb, rydym wedi bod yn ymwybodol iawn o effaith y penderfyniadau ar y Gymraeg. Mae llawer o'r sefydliadau yn cynnal swyddi mewn ardaloedd â chyfran uchel o siaradwyr Cymraeg - er enghraifft, y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth; safleoedd Amgueddfeydd Cenedlaethol yn Nrefach, Felindre ac yn Llanberis; y Comisiwn Brenhinol a Chyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin a'r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol.  Felly, bu'n fater o ystyried yr effaith y byddai toriadau yn y gyllideb yn ei chael ar y cyrff hyn, y swyddogaethau y maent yn eu cyflawni, gyda phwyslais penodol ar swyddi a'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar gymunedau gwledig yn y cadarnleoedd Cymraeg. Fodd bynnag, oherwydd natur y cyllidebau a'r ffaith bod pwysau mawr ar yr holl gyrff a ariennir, bu'n rhaid lleihau cyllidebau - i raddau amrywiol - er mwyn cyflawni'r gostyngiad cyffredinol angenrheidiol o 3.4% yn y gyllideb.

 

Gwariant Ataliol

 

79. Mae £654,500 wedi'i ddyrannu ar gyfer ariannu prosiect Twf ar gyfer 2015-16. Caiff prosiect Twf, sef prif brosiect ymyrraeth Llywodraeth Cymru ym maes trosglwyddo iaith o fewn y teulu, ei ystyried gan arbenigwyr fel un o'r ddau faes pwysicaf o ran cynllunio iaith, ynghyd ag addysg. Fel y nodwyd yn strategaeth y Gymraeg Iaith Fyw: Iaith Byw, hoffai Llywodraeth Cymru weld mwy o deuluoedd lle mae o leiaf un oedolyn yn y teulu, sydd mewn cysylltiad rheolaidd â'r plant, yn siarad Cymraeg fel y brif iaith. Mae Twf yn brosiect arloesol ac eang sydd â'r nod o annog rhieni/gofalwyr Cymraeg eu hiaith i siarad Cymraeg gyda'u plant. Mae ganddo rwydwaith o swyddogion maes ledled Cymru sy'n sicrhau bod rhieni, darpar rieni a'r cyhoedd yn ymwybodol o fanteision cyflwyno'r iaith i blant o adeg eu geni, a'i magu'n ddwyieithog.

 

80. Drwy fuddsoddi mewn mentrau i dargedu teuluoedd o'r cyfnodau beichiogi a geni, mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod negeseuon allweddol ynghylch gallu plant i ddeall mwy nag un iaith yn cael eu cyfleu. Dengys ymchwil mai'r cyfnodau tyngedfennol ar gyfer datblygu'r llwybrau niwral ar gyfer iaith yn ymennydd babanod yw rhwng adeg eu geni a chwe mis ar gyfer geirfa, a rhwng chwech a 12 mis ar gyfer gallu ieithyddol a lleferydd. Drwy gyflwyno mentrau sy'n canolbwyntio ar y cyfnod hwn, rydym yn sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl ac y caiff dwy iaith eu cyflwyno o adeg eu geni, gan osgoi'r angen i wneud ymdrechion ychwanegol, darparu adnoddau ychwanegol a mynd i gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â dysgu'r iaith yn hwyrach mewn bywyd.

 

81. Ymhlith yr enghreifftiau da eraill mae prosiectau Tyfu a Mae dy Gymraeg di'n Grêt fel y'u nodir ym mharagraffau 25-27.

 

Darpariaeth ar gyfer Deddfwriaeth

82. Mae Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ni achub ar bob cyfle i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth newydd yn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg ac yn gyson â'r egwyddorion canlynol. Rydym eisiau iddynt:

·         Fod yn gydnaws â natur ddwyieithog Cymru.

·         Hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg a, lle bynnag y bo'n bosibl, helpu'r cyhoedd yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

·         Parchu’r egwyddor y dylai gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

·         Helpu i warchod cymunedau traddodiadol Gymraeg.

 

83. Noda Adran 144(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 y bydd Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (delio â chynlluniau) yn peidio â bod yn gymwys i berson os daw'r person hwnnw, a phan ddaw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig am y tro cyntaf i'r ddyletswydd o dan adran 25(1) o'r Mesur hwn i gydymffurfio â safon. Ar y sail hon, byddai Cynlluniau Iaith Gymraeg presennol yn parhau nes i'r Comisiynydd osod y safonau.

 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:

84. Nid yw'r Ddeddf yn dod i rym tan fis Ebrill 2016, felly ni fydd unrhyw effaith ar y Gymraeg na chyllidebau cysylltiedig yn ystod blwyddyn ariannol 2015-16.

 

85. Mae'r asesiad o effaith ar y Gymraeg yn datgelu nad yw'n debygol y bydd unrhyw effaith negyddol ar yr iaith a, chan fod y Bil wedi'i gynllunio i greu system decach i bawb sy'n gymwys i gael gofal a chymorth, fod cyfleoedd i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau. Rhaid i bob unigolyn a sefydliad sy'n gysylltiedig â'r broses o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol ystyried hawl pobl i gyfathrebu yn Gymraeg a bydd yn ofynnol iddynt gydymffurfio ag unrhyw un o safonau'r Gymraeg yn y dyfodol.

 

86. Wrth baratoi'r Bil hwn, ystyriwyd Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg ym maes Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol: Mwy na Geiriau ac, o ganlyniad, rhoddwyd ymrwymiad Gweinidogol y bydd y Gymraeg yn cael ei chynnwys yn y rheoliadau a'r Canllawiau a fydd yn ategu'r Bil hwn, er enghraifft, mewn perthynas â'r trefniadau asesu a chomisiynu newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. 

 

87. O ran paratoi Cynlluniau lleol ar gyfer y Gymraeg mewn Gofal a Chymorth a Llesiant lleol, mae'r Bil yn cynnwys egwyddor statudol bwysig sef bod yn rhaid i unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o dan y Bil ystyried nodweddion, diwylliant a chredoau'r unigolyn, gan gynnwys iaith.

 

88. Noda Mwy na Geiriau fod iaith yn angen ac, wrth nodi'r manylion sydd eu hangen mewn asesiad; caiff y gofynion mewn perthynas â nodi angen iaith eu nodi mewn Rheoliadau.

 

Bil Cynllunio (Cymru)

89. Diben y ddeddfwriaeth hon yw cyflwyno system gynllunio fodern drwy wneud newidiadau i weithdrefnau cynllunio a'r ffordd y caiff gwasanaethau cynllunio eu darparu a chynlluniau datblygu eu paratoi. Ni fydd y Bil yn cynnwys polisi cynllunio. Bydd y polisi hwn yn parhau i gael ei nodi ym Mholisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol.

 

90. Mae'n bosibl y gallai'r Bil gael effaith gadarnhaol anuniongyrchol ar y Gymraeg drwy alluogi datblygiadau a fydd yn darparu'r swyddi a'r twf sydd eu hangen i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn ein cymunedau. 

 

Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru);

91. Diben y ddeddfwriaeth hon yw sicrhau bod trefniadau llywodraethu cyrff cyhoeddus i wella llesiant Cymru yn ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol.

 

92. Mae'r Bil yn darparu cyswllt pwysig â strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Iaith Fyw: Iaith Byw, yn enwedig mewn perthynas â chodi ymwybyddiaeth o werth yr iaith a chryfhau sefyllfa'r iaith Gymraeg yn y gymuned.

 

93. Bydd y Bil yn pennu nodau llesiant uchelgeisiol ar gyfer yr hirdymor er mwyn adlewyrchu'r Gymru yr hoffem ei gweld yn y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod iaith Gymraeg ffyniannus wrth wraidd y broses o ddiffinio Cymru gynaliadwy. Bydd y Bil yn garreg filltir bwysig o ran pwysleisio statws swyddogol yr iaith ac yn helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan amlwg o'r agenda yng Nghymru ymhell i'r dyfodol.

 

94. Drwy nodi iaith Gymraeg ffyniannus fel un o chwe nod llesiant ar gyfer sefydliadau cyhoeddus a enwir, bwriedir i'r Bil sicrhau bod dyfodol hirdymor yr iaith yn ganolog i'r amcanion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill.

 

Rheoliadau a gyflwynwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011

95. Rhan allweddol o'r broses o weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yw datblygu safonau a fydd yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod dyletswyddau ar sefydliadau. Mae'r amserlen gyfredol yn dangos y caiff pleidlais ei chynnal i gymeradwyo rheoliadau ar gyfer y gyfres gyntaf o safonau yn ystod Cyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mawrth 2015. Bydd y gyfres gyntaf yn gymwys i Weinidogion Cymru, Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol.

 

96. Mae'r safonau arfaethedig wedi'u drafftio gan ystyried yr egwyddorion allweddol canlynol, sy'n adlewyrchu ymrwymiadau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod y broses o graffu ar y Mesur drafft:

·         sicrhau hawliau clir i siaradwyr Cymraeg mewn perthynas â gwasanaethau Cymraeg;

·         sicrhau bod y safonau mor glir â phosibl o ran yr hyn y mae angen i sefydliadau ei wneud yn ymarferol i gydymffurfio â nhw, fel bod personau mor sicr â phosibl ynghylch beth i’w ddisgwyl o ran gwasanaethau Cymraeg;

·         sicrhau gwell cysondeb rhwng sefydliadau, yn enwedig rhwng sefydliadau yn yr un sector, o ran darparu gwasanaethau Cymraeg;

·         sicrhau bod unrhyw ddyletswyddau a osodir ar sefydliadau yn unol â safonau’r Gymraeg yn rhai rhesymol a chymesur;

·         lleihau'r baich gweinyddol ar sefydliadau y mae'n ofynnol iddynt ddarparu gwasanaethau Cymraeg, fel bod modd iddynt ganolbwyntio ar wella'r ffordd y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu;

·         sicrhau y caiff safonau eu gorfodi'n effeithiol;

·         sicrhau y gellir paratoi Asesiad Effaith Rheoleiddiol i ategu'r rheoliadau y nodir y safonau ynddynt.

 

97.Caiff y safonau newydd hyn eu cyflwyno'n raddol, gan ddisodli Cynlluniau Iaith Gymraeg fesul sector yn unol â system blaenoriaethu a bennwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg.

 

98.Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn darparu ar gyfer sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg a fydd yn gwrando apeliadau yn erbyn penderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â safonau'r Gymraeg. Hwn fydd y tribiwnlys cyntaf i gael ei sefydlu o dan ddeddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

99.Ar 17 Gorffennaf 2014, penododd y Prif Weinidog Keith Bush CF yn Llywydd cyntaf Tribiwnlys y Gymraeg. Gwnaethpwyd y penodiad hwnnw yn unol â Rheoliadau Tribiwnlys y Gymraeg (Penodi) 2013, a nododd y gofynion ar gyfer penodi'r Llywydd ac aelodau eraill o'r Tribiwnlys. Caiff aelodau cyfreithiol gymwys ac aelodau lleyg eu penodi ar ddechrau 2015. Caiff y Tribiwnlys ei sefydlu erbyn diwedd mis Mawrth 2015 i gyd-fynd â'r amserlen ar gyfer Safonau'r Gymraeg.

 

Bil Tai (Cymru)

100.      Mae Bil Tai (Cymru) (“y Bil”) yn gyfres gydlynol o gynigion a fydd yn cyfrannu at dair blaenoriaeth strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer tai, sef: mwy o gartrefi, gwell cartrefi a gwell gwasanaethau. Yn gyffredinol, bydd yn helpu i sicrhau y gall unigolion gael gafael ar gartref fforddiadwy, boddhaol a bod unigolion sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Gall pwerau disgresiwn ar gyfer y Dreth Gyngor ar gartrefi gwag olygu y bydd mwy o dai fforddiadwy ar gael mewn cymunedau gwledig, Cymraeg eu hiaith, a allai helpu i gynnal a gwella'r cymunedau hynny a'r defnydd o'r Gymraeg.

 

Gwybodaeth am effaith unrhyw ddeddfwriaeth y DU ar y Gymraeg

101.      Weithiau, gall deddfwriaeth y DU effeithio ar y Gymraeg, yn enwedig yng nghyd-destun meysydd polisi annatganoledig. 

 

102.      Un enghraifft o ddeddfwriaeth ddiweddar y DU a allai effeithio ar y defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru ac arwain at gost annisgwyl ar gyfer y gyllideb yng Nghymru oedd y Bil Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu Gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur. Nododd y Prif Weinidog y gallai un o'r darpariaethau, a oedd yn ymwneud â lleihau swm yr arian a allai gael ei wario gan drydydd partïon ar ymgyrchu di-blaid mewn perthynas ag etholiadau - gael effaith andwyol yng Nghymru lle y gallai fod angen cynhyrchu deunydd etholiadol yn ddwyieithog, a byddai'r costau cyfieithu yn golygu y gallai llai o ddeunydd gael ei gynhyrchu yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU.  Ar ôl trafod y mater gyda Chomisiynydd y Gymraeg, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Lywodraeth y DU ynglŷn â hyn ac, o ganlyniad, cytunwyd ar ddiwygiad i eithrio'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chyhoeddi deunydd etholiadol yn Gymraeg a Saesneg wrth gyfrifo'r swm y gellir ei wario ar lenyddiaeth ymgyrchu.

 

 

 

 

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC

Prif Weinidog Cymru



[1] http://cymru.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/wmesreport/?skip=1&lang=cy